Newyddion

asdfsadf

Eleni mi fydd Parti Ponty yn . . . . . . . .. . . . .. . . . .

asdfas

Bydd y band ... yn . . .. . ..
dsfsdfdsf

Rhywbeth arall .. . .

Eleni mi fydd Parti Ponty yn . . . . . . . .. . . . .. . . . .

Rhywbeth ??

Bydd y band ... yn . . .. . ..
dsfsdfdsf

Artistiaid Llwyfanau Un, Dau, a Thri

Llwyfan 1

CANDELAS

Band cyfoes o Ogledd Cymru yw Candelas sy’n chwarae cerddoriaeth roc amgen gydag awgrym o “blues”. Maent wedi sefydlu ers 2009 erbyn hyn ac yn perfformio’n rheolaidd. Yn dilyn llwyddiant eu EP cyntaf sef ‘Kim Y Syniad’ yn 2011 daeth Candelas a’u halbwm cyntaf allan yn 2013 a’u hail albwm yn 2014. Mae’r band wedi ei sefydlu o pum aelod brwdfrydig sef Osian Williams, Ifan Jones, Tomos Edwards, Gruffydd Edwards a Lewis Williams. Maent wedi derbyn nifer o wobrau am ei gwaith gan gynnwys Band Gorau 2013/14, Albwm a Sengl Gorau 2013 a hefyd Clawr Gorau 2014.  Fel Y Cledrau mae Candelas yn rhan o label recordio IKaChing.

YR ORIA

Ffurfiwyd Yr Oria ym Mlaenau Ffestiniog yn 2016 sy’n cyfuno pedwar aelod sef Garry, Gerwyn, Gareth a Sion. Band roc amgen maent yn cael ei adnabod fel. Ar hyn o bryd mae ganddynt bedair sengl a bu eu sengl gyntaf sef ‘Cyfoeth Budur’ yn drac yr wythnos ar Radio Cymru nol yn Rhagfyr 2016. Bu’r band yn perfformio ar draws Cymru yng ngwyliau megis Sioe Frenhinol, Sesiwn Fawr, Roc Ardudwy a’r Wŷl Twrw yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae Yr Oria yn fand newydd yn y sin roc Cymraeg. Ei sengl fwyaf newydd yw ‘Gad o lifo trwy’r dwr’ a gafodd ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2017.

MEI GWYNEDD

Mae Mei Gwynedd yn wyneb cyfarwydd iawn i’r sin roc Cymraeg, ers bron i 30 mlynedd bellach. Mae ef yn gyn aelod o Big Leaves, Sibrydion ac Endaf Gremlin. Mae ganddo hefyd ddawn a phrofiad yn y maes cynhyrchu ac wedi cydweithio gyda bandiau ifanc megis Breichiau Hir, Hyll a Rifleros. Bu Mei yn teithio bob cŵr o Gymru yn ystod 2015 fel rhan o ymgyrch ‘Pethau Bychain’. Yn ystod ei daith roedd yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc er mwyn ei recordio i gyfansoddi can newydd.

Alys Williams a'r Band

Mae Alys Williams yn enedigol o Gaernarfon ac yn fam i ddau o blant. Fe ddechreuodd ei gyrfa yn y maes canu pan fentrodd ar lwyfan “The Voice” nol yn 2013, ble gafodd y cyfle i ddewis un o’r 4 mentor ar ôl iddynt hwy i gyd ddangos diddordeb yn eu clyweliad dirgel. Mae gyrfa Alys wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r ddiwrnod #Diolchogalon BBC Radio Cymru. Gwelwn Alys ar lwyfan yr Eisteddfod yn aml hefyd yn ystod Gig Y Pafiliwn gyda Mr Phormula. Mae Alys erbyn hyn wedi cydweithio gyda nifer o artistiaid Cymraeg gan gynnwys Candelas ar ei sengl fwyaf poblogaidd ‘Llwytha’r Gwn'.

FLEUR DE LYS

Gwreiddiau Fleur De Lys o Ynys Fôn a Morfa Nefyn. Maent yn boblogaidd am eu caneuon Cymraeg ar ffurf indi, roc a phop. Mae’r band yn gyfuniad o bedwar aelod sef; Rhys Edwards, Carwyn Williams, Huw Harvey a Siôn Roberts. Gweler Fleur De Lys wedi perfformio mewn amryw o gigs ar draws Chymru a Lloegr ers bod yn rhan o brosiect ‘Gorwelion’ gan gynnwys y cyfle i recordio sesiwn yn Stiwdio Maida Vale. Maent yn enwog am ei riffs bachog a chaneuon sy’n codi ysbryd unrhyw un, yn enwedig y gân ‘Haf 2013’ byddai nifer yn cytuno.

Y CLEDRAU

Band rôc annibynnol o Ogledd Cymru yw Y Cledrau. Maent yn gyfuniad o bedwar aelod sef; Ifan Prys. Joseff Owen, Marged Gwenllian ac Alun Lloyd. Mae ganddynt label recordio drwy IKaChing ac yn ddiweddar wedi lansio EP newydd sef; Un a’r ôl y Llall.  Maent wedi cystadlu yn nifer o gystadlaethau Brwydr y Bandiau gan gynnwys ennill un Wakestock. Rhaid cofio bod llwyddiant y band hefyd wedi dod i’r sylw wrth iddynt ddod i rownd derfynol Cân i Gymru 2014 gyda’u can ‘Agor y Drws’.  Maent ei albwm diweddaraf sef ‘Peiriant Ateb’ yn cynnwys traciau megis; Roger, Rodger!, Swigen o Genfigen a Chacen Gaws.  

PATROBAS

Ffurfiwyd Patrobas fel band gwerin yn nol yn 2014 gyda phedwar aelod sef Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams a Gruffydd Davies. Maent i gyd yn enedigol o Ben Llŷn, Gogledd Cymru. Ei EP cyntaf i’w lansio oedd ‘Dwyn y Dail’ yn 2015 ac ers hynny mae’r band wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn diwedd cyfnod Haf 2016 daeth ‘Castell Aber’ yn sengl newydd o’r band fel demo ar-lein. Yr albwm mwyaf diweddar a lansiwyd gan Patrobas yw ‘Lle awn ni nesa?’ gan label recordio Sain.

Llwyfan 2

RAGSY

Gwr bonheddig o Aberdâr yw Ragsy yn wreiddiol. Mae ganddo hanes ers yn ifanc gyda diddordeb mewn perfformio a cherddoriaeth gyda bod yn rhan o fand Probe. Fe ddechreuodd llwyddiant Ragsy gynyddu wrth iddo fentro ar y rhaglen gystadleuol ‘The Voice’ ar BBC One nol yn 2013. Mae ef erbyn hyn wedi diddori mewn cyfansoddi a pherfformio caneuon eu hun gyda’i gitâr ac erbyn hyn hefyd wedi dysgu Cymraeg ac wedi lansio ei gan Gymraeg cyntaf sef ‘Fy Hafan i‘ yn 2017. Mae ef wedi cwympo yn llwyr mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg ac wedi parhau i gyfansoddi trwy’r iaith drwy lansio senglau dwyieithog. Bu Ragsy hefyd digon ffodus eleni i berfformio cân a gyfansoddwyd gan Owain Gleineister ar Gan i Gymru 2018.

BETHAN NIA

Mae Bethan Nia yn berfformiwr o fri  o Bontypridd sydd wedi ennill nifer o wobrau. Gyda'i thelyn ac ar lafar, mae Bethan yn creu melodïau deinamig a chartrefol gydag estheteg cynhyrchu grimp. Yn cyfuno caneuon gwerin daearol gyda threfniadau pop addurnedig ac alawon cofiadwy, mae hi'n creu sain arbennig o unigryw. Caiff ei ysbrydoli gan artistiaid mor amrywiol ag Enya, Bjork a Kate Bush. Mae Bethan wedi bod yn gweithio ar ei albwm llawn gyntaf, "Ffiniau", sy'n yn cael ei ryddhau yn nes ymlaen yn 2018.

PARTI'R EFAIL

Maen nhw, yn eu tro, wedi canu ymhobman – gan gynnwys strydoedd Pontypridd (ambell dro ar ôl stop-tap!). Ond heddiw, dyma gyfle i'r bois ganu'n deidi ar eu patshyn eu hunain – gan eu bod yn ymarfer lan yr hewl yn Efail Isaf. Oedwch i wrando ar ganeuon gwerin â blas y "Wenhwyseg" arnyn nhw, ynghyd ag amrywiaeth o sbort a direidi Parti'r Efail, dan arweinyddiaeth Menna Thomas, cyn ddisgybl a chyn athrawes yn ysgol Rhydfelen ac yna Gartholwg. Gyda llaw, maen nhw wedi ennill 8 gwaith yn y Genedlaethol a 5 gwaith yn yr Ŵyl Gerdd Dant – ac yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon hefyd.

A Mwy ...

Yn ogystal, ar Lwyfan 2, mi fydd perfformiadau gan
Aelwyd Bro Taf, Iwcs, Cor Godre'r Garth, a bandiau ysgolion Rhydywaun, Gartholwg, Cymer a Llanhari.
Ers 4 blynedd, mae’r Fenter, gyda Mei Gwynedd wedi cynnal gweithdaicerddoriaeth yn ysgolion Cyfun RhCT, gyda’r bwriad o ffurfio band ym mhobYsgol a recordio cerddoriaeth byw er mwyn creu albwm. Ar ôl llwyddiantysgubol llynedd, fe fydd pedwar band newydd yn cael eu ffurfio yn ysgolionCwm Rhondda, Rhydywaun, Gartholwg a Llanhari. Bydd gweithdai gyda MeiGwynedd yn cael eu cynnal yn yr Ysgolion yn ystod yr wythnos yn arwain at yrŵyl i ysgrifennu caneuon cyfoes Cymraeg. Dewch i’w gwylio’n perfformio’n fywo flaen y dyrfa ym Mharti Ponty 2018!

Llwyfan 3

Samba Galez

Mae Samba Galez yn fand cymunedol o Gaerdydd, a ffurfiodd dros 25 mlynedd yn ôl. Rydym yn chwarae o gwmpas De Cymru ac yn aml yn mynd ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys teithiau rheolaidd i Bridgwater, Bryste ac hyd yn oed Ffrainc. Rydym yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth o Frasil, Ciwba ac Affrica, ond bob amser mae gennym samba yn y craidd. Mae'r cerddoriaeth yn siŵr eich bod chi'n tapio eich traed ac yn barod i ddawnsio.

Professor Llusern

Hud y stryd gyda Professor Llusern ar strydoedd Pontypridd i greu atgofion i’w trysori. Gydag adloniant di-ddiwedd a fydd yn apelio at bob oedran!

Gwenda Owen

Merch yn enedigol o Gwm Gwendraeth yw Gwenda Owen sydd wedi hen ennill ei lle ar brif lwyfannau Cymru a thu hwnt. Enillodd Can i Gymru ac yna mynd yn ei blaen i i gynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban Geltaidd ac ennill yno hefyd. Mae’n wyneb cyfarwydd ar S4C ac mae ei llais i’w clywed yn aml ar Radio Cymru.Mae wedi rhyddhau sawl cryno ddisg gan gynnwys yn eu plith casgliadau o ganeuon gwreiddiol i blant. Mae’n edrych ymlaen i berfformio sioe i blant a’r teulu cyfan ym Mharti Ponti. Fe fydd yna ganu a phypedau mewn sioe yn llawn hwyl.

Martyn Geraint a mwy ...

Yn ogystal, ar Lwyfan 3, mi fydd diddanwch i'r plant gan yr amryddawn Martyn Geraint, a pherfformiadau gan Ysgolion Cynradd Lleol.

Top

GIG Clwb y bont

CANDELAS

Band cyfoes o Ogledd Cymru yw Candelas sy’n chwarae cerddoriaeth roc amgen gydag awgrym o “blues”. Maent wedi sefydlu ers 2009 erbyn hyn ac yn perfformio’n rheolaidd. Yn dilyn llwyddiant eu EP cyntaf sef ‘Kim Y Syniad’ yn 2011 daeth Candelas a’u halbwm cyntaf allan yn 2013 a’u hail albwm yn 2014. Mae’r band wedi ei sefydlu o pum aelod brwdfrydig sef Osian Williams, Ifan Jones, Tomos Edwards, Gruffydd Edwards a Lewis Williams. Maent wedi derbyn nifer o wobrau am ei gwaith gan gynnwys Band Gorau 2013/14, Albwm a Sengl Gorau 2013 a hefyd Clawr Gorau 2014.  Fel Y Cledrau mae Candelas yn rhan o label recordio IKaChing.

YR ORIA

Ffurfiwyd Yr Oria ym Mlaenau Ffestiniog yn 2016 sy’n cyfuno pedwar aelod sef Garry, Gerwyn, Gareth a Sion. Band roc amgen maent yn cael ei adnabod fel. Ar hyn o bryd mae ganddynt bedair sengl a bu eu sengl gyntaf sef ‘Cyfoeth Budur’ yn drac yr wythnos ar Radio Cymru nol yn Rhagfyr 2016. Bu’r band yn perfformio ar draws Cymru yng ngwyliau megis Sioe Frenhinol, Sesiwn Fawr, Roc Ardudwy a’r Wŷl Twrw yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae Yr Oria yn fand newydd yn y sin roc Cymraeg. Ei sengl fwyaf newydd yw ‘Gad o lifo trwy’r dwr’ a gafodd ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2017.

MEI GWYNEDD

Mae Mei Gwynedd yn wyneb cyfarwydd iawn i’r sin roc Cymraeg, ers bron i 30 mlynedd bellach. Mae ef yn gyn aelod o Big Leaves, Sibrydion ac Endaf Gremlin. Mae ganddo hefyd ddawn a phrofiad yn y maes cynhyrchu ac wedi cydweithio gyda bandiau ifanc megis Breichiau Hir, Hyll a Rifleros. Bu Mei yn teithio bob cŵr o Gymru yn ystod 2015 fel rhan o ymgyrch ‘Pethau Bychain’. Yn ystod ei daith roedd yn cynnal gweithdai gyda phlant a phobl ifanc er mwyn ei recordio i gyfansoddi can newydd.

Alys Williams a'r Band

Mae Alys Williams yn enedigol o Gaernarfon ac yn fam i ddau o blant. Fe ddechreuodd ei gyrfa yn y maes canu pan fentrodd ar lwyfan “The Voice” nol yn 2013, ble gafodd y cyfle i ddewis un o’r 4 mentor ar ôl iddynt hwy i gyd ddangos diddordeb yn eu clyweliad dirgel. Mae gyrfa Alys wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r ddiwrnod #Diolchogalon BBC Radio Cymru. Gwelwn Alys ar lwyfan yr Eisteddfod yn aml hefyd yn ystod Gig Y Pafiliwn gyda Mr Phormula. Mae Alys erbyn hyn wedi cydweithio gyda nifer o artistiaid Cymraeg gan gynnwys Candelas ar ei sengl fwyaf poblogaidd ‘Llwytha’r Gwn'.

MEI EMRYS

Mae Mei Emrys yn gyfansoddwr a chanwr o fri sydd wedi cychwyn ei yrfa fel artist unigol ar ôl blynyddoedd o fod yn brif leisydd yn y band enwog Vanta. Mae Mei yn wreiddiol o Fethel yng Nghaernarfon. Ei albwm diweddaraf yw Llwch sydd yn cynnwys rhai o’r traciau isod; Goleudy, Glaw Mis Awst, Haf Yma a Saetha Fi Lawr. Mae tri o’r traciau ar yr albwm eisoes wedi bod yn ‘Trac Yr Wythnos’ ar Radio Cymru.

RAGSY

Gwr bonheddig o Aberdâr yw Ragsy yn wreiddiol. Mae ganddo hanes ers yn ifanc gyda diddordeb mewn perfformio a cherddoriaeth gyda bod yn rhan o fand Probe. Fe ddechreuodd llwyddiant Ragsy gynyddu wrth iddo fentro ar y rhaglen gystadleuol ‘The Voice’ ar BBC One nol yn 2013. Mae ef erbyn hyn wedi diddori mewn cyfansoddi a pherfformio caneuon eu hun gyda’i gitâr ac erbyn hyn hefyd wedi dysgu Cymraeg ac wedi lansio ei gan Gymraeg cyntaf sef ‘Fy Hafan i‘ yn 2017. Mae ef wedi cwympo yn llwyr mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg ac wedi parhau i gyfansoddi trwy’r iaith drwy lansio senglau dwyieithog. Bu Ragsy hefyd digon ffodus eleni i berfformio cân a gyfansoddwyd gan Owain Gleineister ar Gan i Gymru 2018.

Bethan Nia

Mae Bethan Nia yn berfformiwr o fri  o Bontypridd sydd wedi ennill nifer o wobrau. Gyda'i thelyn ac ar lafar, mae Bethan yn creu melodïau deinamig a chartrefol gydag estheteg cynhyrchu grimp. Yn cyfuno caneuon gwerin daearol gyda threfniadau pop addurnedig ac alawon cofiadwy, mae hi'n creu sain arbennig o unigryw. Caiff ei ysbrydoli gan artistiaid mor amrywiol ag Enya, Bjork a Kate Bush. Mae Bethan wedi bod yn gweithio ar ei albwm llawn gyntaf, "Ffiniau", sy'n yn cael ei ryddhau yn nes ymlaen yn 2018.

FLEUR DE LYS

Gwreiddiau Fleur De Lys o Ynys Fôn a Morfa Nefyn. Maent yn boblogaidd am eu caneuon Cymraeg ar ffurf indi, roc a phop. Mae’r band yn gyfuniad o bedwar aelod sef; Rhys Edwards, Carwyn Williams, Huw Harvey a Siôn Roberts. Gweler Fleur De Lys wedi perfformio mewn amryw o gigs ar draws Chymru a Lloegr ers bod yn rhan o brosiect ‘Gorwelion’ gan gynnwys y cyfle i recordio sesiwn yn Stiwdio Maida Vale. Maent yn enwog am ei riffs bachog a chaneuon sy’n codi ysbryd unrhyw un, yn enwedig y gân ‘Haf 2013’ byddai nifer yn cytuno.

BWNCATH

Ffurfiwyd Bwncath nol yn 2014 yn ardal Caernarfon, maent yn boblogaidd am ganu cyfuniad o gerddoriaeth gwerin gyfoes, roc a ffwnc. Gwelir y band fel 4 aelod sef Elidyr Glyn, Meredydd Wyn, Robin Llwyd a Gwilym.  Fe lansiwyd ei albwm cyntaf nol yn 2017 sy’n cynnwys rhai o glasuron eu setiau byw; Barti Ddu, Pen Y Mynydd, Y Dderwen Ddu a Lawr y Ffordd. Mae Bwncath wedi perfformio mewn amryw o lefydd gan gynnwys Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.